#

 

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-693

Teitl y ddeiseb: Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim

Testun y Ddeiseb: Mae iechyd wedi'i ddatganoli'n llwyr i Gymru.  Gofynnwn i'r Cynulliad ac i Mark Drakeford newid yr ystod oedran fel bod pob plentyn yn cael y brechlyn.

Mae pob plentyn mewn perygl o ddal yr haint ofnadwy hwn, ac eto dim ond babanod 2 i 5 mis oed y mae Llywodraeth Cymru yn eu brechu.  Mae angen cyflwyno rhaglen i frechu pob plentyn hyd at 11 oed o leiaf. Gall heintiau meningococaidd fod yn ddifrifol iawn, gan achosi LLID YR YMENNYDD, SEPTISEMIA A MARWOLAETH

 

Y cefndir

Haint bacteriol sy'n effeithio ar blant o dan flwydd oed yn arbennig yw llid yr ymennydd B. Mae'n aml yn effeithio hefyd ar blant o dan bump oed, yn ogystal â phobl ifanc rhwng 15 a 19 oed. Mae tua 1,870 o achosion o lid yr ymennydd B yn y DU bob blwyddyn, ac mae tua 10 y cant o'r achosion hyn yn angheuol. Mae oddeutu un o bob pedwar o'r rhai sy'n goroesi yn dioddef problemau hirdymor yn sgil y salwch, fel colli rhan o'r corff, byddardod, epilepsi ac anawsterau dysgu.

Y DU yw'r wlad gyntaf i ychwanegu'r brechlyn llid yr ymennydd B at ei rhaglen frechu arferol i blant. Lansiwyd y rhaglen ar 1 Medi 2015, gan dargedu'r babanod hynny a oedd i gael eu brechiadau sylfaenol ar 1 Medi 2015 neu ar ôl hynny, gan ddechrau pan oeddent yn ddwy fis oed (hynny yw, y babanod a anwyd ar 1 Gorffennaf 2015 neu ar ôl hynny). O ran y babanod hynny a anwyd rhwng 1 Mai 2015 a 30 Mehefin 2015 (sef y babanod hynny a oedd yn 3 mis neu 4 mis oed pan gafodd y rhaglen ei lansio), lansiwyd rhaglen untro er mwyn iddynt gael cyfle i ddal i fyny. Nod y camau hyn oedd sicrhau bod y brechlyn yn cael ei gynnig i'r babanod hynny cyn cyfnod brig y clefyd yn ystod y gaeaf. Erbyn mis Mai 2017, dylid bod wedi cynnig y brechlyn i bob plentyn o dan ddwy flwydd oed. Mae'r brechlyn ar gael i nifer fach o blant ac oedolion hŷn sydd â risg uwch o gael eu heintio fel y rhai nad oes ganddynt ddueg.

Pam nad yw ar gael i bob plentyn?

Yn 2014, gwnaeth y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI)—y corff arbenigol sy'n cynghori Llywodraeth y DU ar frechiadau—argymhelliad bod babanod yn cael y brechiad llid yr ymennydd B o ddau fis oed ymlaen.  Dywedodd y cydbwyllgor mai babanod o dan flwydd oed oedd y rhai â'r risg mwyaf o gael eu heintio â chlefydau meningococaidd, ac fe wnaed penderfyniad i ddiogelu'r rheiny a oedd â'r risg uchaf. Yn ôl Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd, mae nifer yr achosion o'r clefyd ymhlith babanod o dan flwydd yn cyfateb i tua 22 o fabanod allan o bob 100,000. Yn y grŵp 1-4 oed, mae'r ffigur hwn yn gostwng i bump allan o bob 100,000 o blant. Mae nifer yr achosion o'r clefyd ymhlith grwpiau hŷn yn is o lawer.

Cafodd deiseb yn galw am gynnig y brechiad llid yr ymennydd B i bob plentyn hyd at 11 oed ei chyflwyno ar wefan ddeisebau Senedd a Llywodraeth y DU ym mis Medi 2015. Casglwyd dros 820,000 o lofnodion mewn perthynas â'r ddeiseb honno (y nifer uchaf o lofnodion ers lansio gwefan ddeisebau Senedd a Llywodraeth y DU). Cafodd y ddeiseb ragor o sylw ym mis Chwefror 2016 yn dilyn cyhoeddi lluniau o Faye Burdett, merch a fu farw o lid yr ymennydd B yn ddwy flwydd oed ar 14 Chwefror 2016.

 

Cynhaliodd pwyllgorau dethol y DU ar ddeisebau ac iechyd drafodaethau ar y cyd ar y ddeiseb ynghylch ymestyn y brechlyn llid yr ymennydd B ym mis Chwefror 2016. Cytunwyd y dylid trefnu dadl ar y mater yn y Senedd, ac fe gynhaliwyd y ddadl honno ar 25 Ebrill 2016. Daeth nifer o faterion i'r amlwg yn ystod y sesiynau hynny. Roedd y rhain yn cynnwys ystyried cynnig y brechlyn i blant hŷn. Dywedodd yr Athro Pollard, Cadeirydd y cydbwyllgor, fod Gweinidog Iechyd Cyhoeddus y DU wedi gofyn i'r cydbwyllgor ailystyried y brechiad llid yr ymennydd B mewn perthynas â'r grŵp 1-2 oed, a chadarnhaodd y byddai'r cydbwyllgor yn trafod y mater hwn yn y dyfodol agos.

Cafwyd ymateb i'r ddeiseb gan Adran Iechyd Llywodraeth y DU, a nododd fod y rhaglen a gyflwynwyd yn diogelu'r rhai sydd â'r risg mwyaf o gael eu heintio â chlefyd meningococaidd grŵp B, a bod y rhaglen yn cyd-fynd ag argymhellion y cydbwyllgor. Dywedodd:

With this programme, our priority is to protect those children most at risk of Men B, in line with JCVI's recommendation. The NHS budget is a finite resource, it is therefore essential that JCVI's recommendations  are underpinned by evidence of cost-effectiveness. Offering the vaccine outside of JCVI's advice would not be cost effective, and would not therefore represent a good use of NHS resources which should be used to benefit the health and care of the most people possible.

Yn ystod y ddadl, cyhoeddodd Jane Ellison AS, Gweinidog Iechyd y DU, na fyddai'n bosibl i Lywodraeth y DU, yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r cyngor a gafwyd, gefnogi'r cynnig i ymestyn y rhaglen frechu ar gyfer llid yr ymennydd B i blant hŷn. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu na fydd Llywodraeth y DU a'r Senedd yn parhau i ystyried y mater hwn. Cadarnhaodd y Gweinidog fod Llywodraeth y DU wedi sefydlu gweithgor i drafod sut y gwneir penderfyniadau ynghylch pa mor gost-effeithiol yw brechlynnau. Bydd y gweithgor yn cyflwyno adroddiad ar y mater yn ddiweddarach eleni.

Yn ddiweddar (Mawrth 2016), cyhoeddodd yr elusennau sy'n ymdrin â llid yr ymennydd (Meningitis Now a  Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd) gynllun deg pwynt ar gyfer gweithredu ym maes llid yr ymennydd B. Mae'r cynllun hwn yn galw ar Lywodraeth y DU i ariannu ymchwil i sut y gellir cynnwys y buddion iechyd sydd ynghlwm wrth dawelwch meddwl yn y gwaith o ddadansoddi cost-effeithiolrwydd brechlynnau. Mae'n galw hefyd ar y cydbwyllgor i ailystyried ymgyrch dal i fyny ar gyfer plant o dan 5 oed yng ngoleuni fframwaith cost-effeithiolrwydd newydd sy'n decach, a'r data sy'n dod i'r amlwg ar effeithiolrwydd brechlynnau.

 

Mae'n werth nodi y gellir prynu'r brechlyn llid yr ymennydd B yn breifat yn y DU. Felly, mae'n bosibl i bobl nad ydynt yn gymwys i hawlio'r brechlyn ar y GIG ei gael os ydynt yn fodlon talu amdano, ond gall hyn fod yn gostus. Bellach, yn sgil galw mawr am y brechlyn yn 2015, cyhoeddodd GlaxoSmithKline (GSK), gwneuthurwr y brechlyn, ddatganiad ynghylch prinder cyflenwad. Dywedodd y cwmni fod rhaglen imiwneiddio plant y GIG yn flaenoriaeth ac na fyddai'n effeithio arni. Fodd bynnag, dywedodd na ddylai clinigau preifat ddechrau cyrsiau newydd ar hyn o bryd.

 

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn bwyllgor ymgynghorol arbenigol annibynnol sy'n rhoi cyngor arbenigol i Weinidogion Iechyd y DU ar bob mater sy'n ymwneud ag imiwneiddio a brechu. Gan fod iechyd yn gyfrifoldeb datganoledig, cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd yw penderfynu a yw'r cyngor a geir gan y cydbwyllgor yn cael ei roi ar waith fel rhan o bolisi cenedlaethol. Fodd bynnag, y drefn arferol yw bod Cymru'n mabwysiadu argymhellion y cydbwyllgor, ynghyd â gwledydd eraill y DU, er mwyn diogelu pobl ledled y DU rhag clefydon penodedig.

Ar Ebrill 8 2015, cadarnhaodd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, y byddai brechlyn llid yr ymennydd B yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r rhaglen frechu arferol i blant yng Nghymru ar 1 Medi 2015.   Cadarnhaodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn rhan o'r broses gaffael ar gyfer y brechlyn ledled y DU, ac wedi neilltuo cyllid gwerth £7.7 miliwn er mwyn sicrhau bod y brechlyn ar gael yng Nghymru cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Ym mis Awst 2015, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddogfen ar imiwneiddio babanod sy'n ddau fis oed neu'n hŷn yn erbyn clefyd meningococaidd grŵp B sy'n egluro'r sefyllfa yng Nghymru. Gan nodi y byddai'r sefyllfa'n cael ei hunioni â gweddill y DU, mae'r ddogfen yn datgan:

starting on 1 September 2015, all infants born on or after 1 July 2015 will be eligible for the meningococcal B vaccine which will be administered together with the other primary immunisations at 2 months, 4 months and 12-13 months.

Mae hefyd yn cadarnhau y byddai rhaglen dal i fyny yn cael ei gweithredu ar gyfer babanod a fyddai'n dod i gael eu himiwneiddiadau arferol yn dri mis oed a phedwar mis oed. Byddai'r drefn hon yn gymwys ar gyfer babanod a anwyd rhwng 1 Mai 2015 a 30 Mehefin 2015. Nid yw babanod a anwyd cyn 1 Mai 2015 yn gymwys i gael y brechlyn ar gyfer clefyd meningococaidd grŵp B.

Ceir mwy o wybodaeth yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru (2015) 040, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2015 ac ar wefan Galw Iechyd Cymru.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.